Also available in: English
Cofrestru Gwasanaethau Bws
COFRESTRU GWASANAETHAU BWS LLEOL SY’N DILYN LLWYBRAU HYBLYG
ARWEINIAD I WEITHREDWYR
MYNEGAI
Tudalen
1. Rhagymadrodd 3
2. Cofrestru Gwasanaeth Hyblyg 4
• Archebu ymlaen llaw
• Teithwyr Ad Hoc
• Ffenestri amser
• Cadw cofnodion
• Dangos a chyhoeddi gwybodaeth am y gwasanaeth
• Gwasanaethau sy’n croesi ffiniau
3. Materion eraill sy’n ymwneud â Chofrestru 9
• Gofynion o ran rhoi rhybudd
• Ffioedd
4. Gwasanaethau Presennol: Darpariaethau Pontio 10
• Eithriadau i’r gofyniad i ailgofrestru Gwasanaethau
presennol yn wasanaethau hyblyg
5. Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau 12
6. Deddfwriaeth 13
Atodiad A
Cwestiynau a ofynnir yn aml 14
Atodiad B
Sut i gofrestru manylion eich gwasanaeth bws lleol 15
Sut i lenwi’r ffurflen gais 16
Atodiad C
Enghreifftiau o fathau o wasanaeth 19
1. Mae’r arweiniad hwn yn egluro’r rheolau ar gyfer cofrestru gwasanaeth bws lleol sy’n dilyn llwybr hyblyg a hawlio Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau ar ei gyfer, o dan y ddeddfwriaeth1 a ddaeth i rym ar 23 Chwefror 2004. Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â Local Bus Service Registration - Guide for Operators (PSV353A), sydd ar gael oddi wrth www.vosa.gov.uk neu’r Swyddfa Ardal Draffig leol. Bydd yn rhaid i weithredwyr newydd wneud cais am Drwydded Gweithredwr Cerbyd Gwasanaeth Cyhoeddus i’r Comisiynydd Traffig perthnasol2, neu, yn achos cyrff nad ydynt yn gwneud elw, hawlen a roddir o dan Adran 22 Deddf Trafnidiaeth 19853. Rhaid dangos disg gweithredwr yn ffenestr pob Cerbyd Gwasanaeth Cyhoeddus.
2. Roedd y rheoliadau cofrestru blaenorol yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd wrth ddarparu gwasanaethau bws lleol. Os nad oedd modd darparu gwybodaeth am y llwybr a’r amserlen oherwydd natur y gwasanaeth bws arfaethedig, gallai gweithredwyr gyflwyno manylion eraill a oedd yn cynnig ‘disgrifiad llawn’ o’r gwasanaeth arfaethedig4. Mae’r newidiadau i’r rheoliadau sy’n cyflwyno cofrestriadau hyblyg yn dileu’r ddarpariaeth hon. Bydd unrhyw wasanaethau newydd sydd ag elfen hyblyg yn gorfod cael eu cofrestru fel cofrestriad hyblyg.
3. Yn yr un modd â gwasanaeth cofrestredig confensiynol, mae gwasanaeth hyblyg yn defnyddio Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus i gludo teithwyr sy’n talu am docynnau ar wahân dros bellteroedd byr. Er mwyn ymgymhwyso a chofrestru’n wasanaeth hyblyg, rhaid i bob teithiwr allu gadael y bws o fewn 24.15km (15 milltir) (ar hyd llinell syth) i’r man y cafodd ei godi. Fodd bynnag, yn wahanol i gofrestriad confensiynol, nid yw’n ofynnol i weithredwyr gwasanaethau hyblyg gofrestru llwybr neu amserlen benodol. Yn lle hynny, rhaid i deithwyr unigol archebu eu taith ymlaen llaw gyda’r gweithredwr (gweler paragraffau 14-15 isod) a bydd y llwybr a’r amseriadau’n amrywio yn ôl anghenion y teithwyr hynny. Rhaid i weithredwyr gadw cofnodion hefyd o bob archeb a dderbynnir, ac o’u perfformiad ar y ffordd wrth ddarparu’r gwasanaeth (gweler paragraffau 20-22 isod). Gall gweithredwyr hefyd bennu ardal weithredu lle y gallant ddarparu gwasanaethau cwbl hyblyg (gweler paragraff 10 isod).
Beth yw gwasanaeth hyblyg?
4. Mae’r Rheoliadau sy’n nodi pa fanylion am y gwasanaeth y mae’n rhaid eu cofrestru yn gosod gofynion gwahanol yn ôl pa un a yw’r gwasanaeth dan sylw yn “wasanaeth arferol” (h.y. gwasanaeth lleol cofrestredig confensiynol) neu’n “wasanaeth hyblyg”. Y diffiniad o wasanaeth hyblyg yw un:
• sy’n gwasanaethu un neu ragor o gymunedau lleol neu gymdogaethau o fewn ardal benodol,
• sydd mor hyblyg fel na ellir nodi ymlaen llaw yr holl ffyrdd sydd i’w defnyddio ar unrhyw adeg benodol (DS: gallai rhai rhannau o’r llwybr fod yn sefydlog ond mae’r rhan helaethaf o’r daith yn dilyn llwybr hyblyg.)
• sy’n cael ei ddarparu’n bennaf i gludo teithwyr sydd wedi archebu ymlaen llaw ac y mae eu hanghenion gyda’i gilydd yn pennu llwybr pob taith er y gallai rhai eraill fod yn teithio hefyd,
• lle y mae’r cyhoedd yn talu am docynnau ar wahân, a
• lle y telir am docynnau ar wahân nad ydynt yn amrywio yn eu pris yn ôl nifer y teithwyr sy’n cael eu cludo ar y daith.
Gwasanaethau ‘arferol’ (h.y. confensiynol) yw’r gwasanaethau bws lleol eraill. Ceir eglurhad mwy manwl isod o elfennau gwasanaeth hyblyg.
Gofyniad i godi am bris tocyn ar wahân ar wasanaethau hyblyg
5. Dylid nodi bod rhaid i’r tâl am bob tocyn unigol ar wasanaeth cofrestredig hyblyg fod yn ‘daliad nad yw’n agored i’w newid yn ôl nifer y teithwyr sy’n cael eu cludo ar y daith’. Dyma’r drefn arferol ar gyfer talu am docynnau ar wasanaeth bws lleol confensiynol. Mae pob teithiwr yn talu’r un pris am yr un daith, beth bynnag fo nifer y teithwyr eraill sydd eisoes yn y bws neu’n mynd arno ar adeg gwneud y daith.
6. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu na all gwasanaeth hyblyg godi un tâl am ei hurio. Gallai sefyllfa o’r fath godi pan yw’r cyfanswm a godir am unrhyw daith benodol yn union yr un fath beth bynnag fo’r nifer sy’n cael ei gludo. Er enghraifft, mae cerbyd yn codi tri theithiwr sydd i gyd yn teithio i’r un lle ac yn codi £4 yr un arnynt; ond pe byddai dim ond dau deithiwr am deithio, y tâl fyddai £6 yr un; ac mae un teithiwr yn talu £12. Dyma’r drefn ar gyfer talu am gerbydau hurio preifat (cabiau bach). Ni chaniateir trefn talu o’r fath ar wasanaethau lleol sy’n dilyn llwybrau hyblyg.
7. Yn ogystal â hynny, rhaid i’r holl seddau ar wasanaeth lleol sy’n dilyn llwybr hyblyg (neu gynifer ag y gellir eu llenwi’n rhesymol ar unrhyw daith) fod “ar gael i’w defnyddio gan y cyhoedd”. Pwrpas y gofyniad hwn yw sicrhau na fydd cyfyngiadau afresymol neu ffug ar nifer y teithwyr. Enghraifft eithafol o hynny fyddai polisi ‘dim rhannu’ ac eithrio pan yw’r teithwyr yn teithio fel grwp. NI chaniateir hynny ar wasanaethau lleol sy’n dilyn llwybrau hyblyg. Mae’r darpariaethau ym mharagraffau 6 a 7 yn sicrhau bod gwasanaeth bws hyblyg yn wahanol i hurio preifat.
8. Mae llawer o’r manylion y mae’n rhaid eu rhoi ar gyfer cofrestriad hyblyg yr un fath â’r rhai ar gyfer gwasanaeth bws arferol (confensiynol). Y manylion yw:
• enw gweithredwr y gwasanaeth a manylion ei drwydded neu hawlen gweithredwr;
• y dyddiad y bydd y gwasanaeth yn dechrau gweithredu;
• enw a rhif y gwasanaeth - mae hyn yn ofyniad newydd sy’n berthnasol i’r holl gofrestriadau neu newidiadau a wneir ar neu ar ôl 23 Chwefror 2004.
• yr amseroedd yn ystod y flwyddyn y darperir y gwasanaeth.
9. Fodd bynnag, er y gall gwasanaeth hyblyg, yn yr un modd â chofrestriad arferol (confensiynol), “ddilyn llinell sefydlog mewn rhai rhannau o’i lwybr, mae mor hyblyg o ran ei weithrediad cyfan fel nad oes modd nodi” llwybr ac amserlen ymlaen llaw. Yn lle hynny, mae’r gweithredwr yn diffinio fel rhan o’r cofrestriad:
(a) ardal weithredu hyblyg (ynghyd â manylion am unrhyw rannau sefydlog o’r llwybr, neu hebddynt); ac/ neu
(b) mannau aros sefydlog.
10. Ardal weithredu hyblyg yw ardal benodol lle y mae’r gwasanaeth hyblyg yn gweithredu. Mae’r enghraifft yn Ffigur A yn Atodiad C yn dangos ardal weithredu sy’n gwasanaethu tref fach. Er y gall yr ardal fod o unrhyw faint, ni chaiff ond gwasanaethu un neu ragor o gymunedau lleol neu gymdogaethau. Er enghraifft, ni ellid dweud bod ardal weithredu sy’n cynnwys rhan helaeth o sir yn un sy’n gyson â’r diffiniad hwn. Fodd bynnag, byddai ardal sy’n cwmpasu tref neu sawl pentref gwledig cyfagos yn gyson â’r diffiniad hwn. Gellir codi teithwyr a’u gosod i lawr mewn unrhyw le yn yr ardal weithredu, mewn ymateb i archeb ymlaen llaw (taith ‘llawer man i lawer man’ fel y’i gelwir).
11. Yn ogystal â darparu teithiau ‘llawer man i lawer man’ mewn ardal weithredu, gall y bysiau hefyd wasanaethu arosfannau sefydlog. Byddai hynny, er enghraifft, yn caniatáu i gerbyd godi teithwyr unigol mewn lle yn yr ardal weithredu hyblyg (eu cartref efallai) a mynd â hwy i un gyrchfan sefydlog (taith ‘llawer man i un man’ fel y’i gelwir). Un enghraifft o hynny fyddai minibws sy’n codi teithwyr mewn unrhyw le mewn grwp o bentrefi (sydd wedi’u cynnwys yn yr ardal weithredu hyblyg) ac yn mynd â hwy i arhosfan sefydlog (a allai fod ar amserlen neu beidio) mewn tref gyfagos. Wrth gwrs, gallai’r gwasanaeth gynnwya nifer o gyrchfannau sefydlog. Gallai’r gwasanaeth weithredu yn y cyfeiriad arall (i gynnig teithiau dychwelyd, er enghraifft), gan godi teithwyr mewn arosfannau sefydlog y tu allan i’r ardal weithredu hyblyg a’u cludo i wahanol gyrchfannau y tu mewn iddi, yn ôl y galw (taith ‘un man i lawer man’). Gweler yr enghraifft yn Ffigur B yn Atodiad C.
12. Gellid cael trefniant mwy cymhleth drwy ddynodi sawl ardal weithredu a sawl arhosfan sefydlog, gan greu rhwydwaith. Gweler yr enghraifft yn Ffigur C yn Atodiad C.
13. Er y gellid derbyn archebion lle y mae dau fan aros olynol yn fwy na 15 milltir oddi wrth ei gilydd, ni fyddai’r rhan honno o’r daith yn gyson â’r diffiniad o wasanaeth lleol cofrestredig. Nid yw’r gofynion cadw cofnodion a nodir ym mharagraffau 20-22 yn berthnasol, ac nid yw gwasanaethau o’r fath yn agored i orfodi gan y Comisiynydd Traffig. Fodd bynnag, ni ellir hawlio Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau ar gyfer teithiau o’r fath - gweler paragraffau 34-44 isod.
Archebu ymlaen llaw
14. Un o nodweddion gwasanaeth hyblyg yw ei fod “yn cael ei ddarparu’n bennaf er mwyn cludo teithwyr sydd wedi archebu ymlaen llaw”. Yn hytrach na darparu amserlen sy’n dangos bysiau unigol sy’n aros wrth arosfannau penodol, mae gweithredwyr yn derbyn archebion ymlaen llaw oddi wrth deithwyr ar gyfer teithiau unigol (un ai gyda’r gweithredwr ei hun neu drwy ganolwr - e.e. cynrychiolydd neu ganolfan alwadau) cyn teithio. Nid oes cyfnod byrraf ar gyfer archebu ymlaen llaw - mater gweithredol i’r gweithredwr yw hynny. Fodd bynnag, ni chaiff teithwyr archebu gyda’r gyrrwr neu drwy ganolfan archebu pan yw’r cerbyd yn bresennol (gweler yr ail gwestiwn yn Atodiad A). Er hynny, gellir cludo teithwyr ad hoc o dan rai amgylchiadau (gweler isod).
15. Nid yw gweithredwyr o dan unrhyw orfodaeth i gludo pob teithiwr sy’n holi ynghylch archebu. Gellid cael achosion lle na allai’r gweithredwr ateb gofynion teithio unigolion penodol - e.e. am na ellid trefnu i gludo’r unigolyn ar yr adeg a rhwng y lleoedd yr oedd yn eu dymuno (er y byddai cyfle efallai i negodi amseroedd eraill). Ni fyddai gofynion y cofrestriad ond yn berthnasol pan yw’r gweithredwr wedi derbyn archeb benodol.
Teithwyr ad hoc
16. Sylwer bod gwasanaethau hyblyg yn cael eu darparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer teithwyr sydd wedi archebu ymlaen llaw. Felly, er bod rhaid i fwyafrif pendant o’r teithwyr archebu ymlaen llaw, gellid darparu lle ar gyfer rhai sydd heb wneud hynny. Fodd bynnag, ni all teithwyr ad hoc sydd heb archebu ymlaen llaw beri newid llwybr presennol y cerbyd er mwyn cydweddu â’u taith. Felly, er enghraifft, cânt deithio ar wasanaeth hyblyg o dan yr amgylchiadau a ganlyn:
• rhwng arosfannau sefydlog sydd ar amserlen;
• lle y cânt eu cludo fel teithwyr ychwanegol gyda theithwyr eraill sydd wedi archebu ymlaen llaw, drwy gydol taith y teithwyr hynny. Er hynny, rhaid bod: (a) digon o le yn y cerbyd gan ystyried yr holl archebion ymlaen llaw ar gyfer y daith honno; a (b) bod modd gwneud hynny heb newid amseroedd teithio’r teithwyr presennol sydd wedi archebu ymlaen llaw fel eu bod y tu allan i’r ffenestr amser fwyaf o 20 munud (gweler y paragraff dilynol).
Ffenestri amser
17. Fel yr eglurwyd uchod, mae gweithredwyr gwasanaethau hyblyg cofrestredig yn rhydd i gytuno ar amseroedd codi a chyrraedd yn unigol gyda phob teithiwr wrth iddo archebu ymlaen llaw, gan ystyried teithwyr eraill y mae’n rhaid eu codi ac amodau traffig. Fodd bynnag, wedi i’r gweithredwr dderbyn archeb, RHAID i’r cerbyd gyrraedd man aros a chyrchfan pob teithiwr unigol o fewn ffenestr amser o 20 munud ar y mwyaf. Gall y ffenestr amser fod un ai’n gyfnod a ddynodir gan y gweithredwr (h.y. bydd y cerbyd yn cyrraedd arhosfan benodol rhwng 10:00 a 10:20am) neu’n un a bennir mewn perthynas â’r amser codi y mae’r teithiwr yn gofyn amdano (h.y. dim mwy na 10 munud cyn neu 10 munud ar ôl yr amser codi a gytunwyd).
18. Er enghraifft, os derbyniwyd archeb i godi teithiwr wrth ei gartref, dyweder, am 10am a’i osod i lawr wrth y ganolfan siopa am 10:30am, rhaid cyrraedd cartref y teithiwr ddim cynharach na 9:50am a dim hwyrach na 10:10am. Yn yr un modd, rhaid i’r gweithredwr ddynodi y bydd y cerbyd yn cyrraedd ei gyrchfan yn ystod cyfnod o 20 munud neu lai (h.y., yn yr enghraifft uchod, bydd yn cyrraedd y ganolfan siopa rhwng 10:20am a 10:40am). Wrth gwrs, mae’n bwysig i’r holl deithwyr fod yn barod i deithio pan yw’r cerbyd yn cyrraedd, er mwyn sicrhau na fydd yn hwyr yn codi’r teithwyr nesaf sy’n rhannu’r cerbyd.
19. Gall y Comisiynydd Traffig ddewis caniatáu ffenestr amser sy’n hwy nag 20 munud mewn amgylchiadau eithriadol. Er hynny, rhaid iddo fod yn sicr bod dadl dda dros wneud hynny.
Cadw cofnodion
20. Os nad oes llwybr ac amserlen sefydlog, rhaid i’r Comisiynydd gael rhyw fodd arall i bennu a yw gweithredwr unigol yn darparu’r gwasanaeth a nodir yn y cofrestriad. Gan hynny, mae’n ofynnol i weithredwyr gadw cofnod o bob archeb a dderbynnir a’u perfformiad ar y ffordd wrth ei chyflawni. Dylai manylion o’r fath (a ddylai fod ar gael ar bapur neu ar ffurf electronig) gynnwys y canlynol ar gyfer pob archeb a dderbynnir:
• enw a manylion cysylltu a fyddai’n galluogi’r Comisiynydd Traffig i gysylltu wedyn â phob teithiwr a ddefnyddiodd y gwasanaeth5 (gall manylion cysylltu gynnwys cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, a.y.b.);
• dyddiad y daith;
• yr amser a’r lle y cytunwyd i godi’r teithiwr a’i osod i lawr;
• yr union amser y cyrhaeddodd y cerbyd i’w godi ac y cyrhaeddodd ei gyrchfan.
21. Rhaid cadw cofnodion am gofnod o 12 mis calendr o leiaf oddi ar ddyddiad y daith (gall y Comisiynydd ddewis ymestyn y cofnod cadw cofnodion ar gyfer gweithredwyr unigol). Yn ymarferol, mae’r gweithredwr, canolfan alwadau neu awdurdod lleol (e.e. yn achos gwasanaeth sy’n derbyn cymhorthdal) yn gallu cadw’r data hyn. Rhaid i’r gweithredwr eu darparu hefyd ar gyfer y Comisiynydd Traffig (neu ei gynrychiolydd) ar ei gais. Cyfrifoldeb y gweithredwr yw sicrhau bod y data hyn yn gyflawn am y cyfnod llawn o 12 mis (neu’n hwy os yw’r Comisiynydd yn dewis hynny). Gall y Comisiynydd gymryd camau disgyblu yn erbyn gweithredwr os ydynt yn anghyflawn.
22. Mae goblygiadau o ran diogelu data wrth gadw manylion am deithwyr unigol. Mater i weithredwyr unigol yw sicrhau eu bod yn ateb gofynion perthnasol Deddf Diogelu Data 1998 - gan gynnwys cofrestru’n ‘rheolwyr data’ 6.
Dangos a chyhoeddi gwybodaeth am y gwasanaeth
23. Mae’r drefn codi tâl yn hollbwysig wrth sicrhau bod taliadau unigol (gweler paragraffau 5-6 uchod) yn cael eu codi ar wasanaetau hyblyg. Mae’n ofynnol felly i weithredwyr ddangos prisiau tocynnau (ar ffurf tabl neu fel arall) mewn lle amlwg ym mhob cerbyd sy’n darparu gwasanaeth hyblyg, fel ei bod yn hawdd i deithwyr eu darllen a gweld yn rhwydd beth yw’r tâl ar gyfer eu taith.
24. Rhaid i bob bws hefyd ddangos enw’r gwasanaeth mewn man lle y gellir ei ddarllen yn hawdd o’r tu allan i bob cerbyd.
25. Mae hefyd yn bwysig bod darpar deithwyr yn gwybod yn iawn sut y mae gwasanaethau hyblyg yn gweithredu cyn iddynt archebu. Felly, mae’n ofynnol i weithredwyr gynnwys y manylion canlynol mewn unrhyw wybodaeth i deithwyr (boed honno mewn ysgrifen neu ar ffurf electronig):
• datganiad i’r perwyl mai gwasanaeth bws hyblyg ydyw a bod:
(a) rhaid i deithwyr archebu ymlaen llaw (ac eithrio yn yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 16 uchod);
(b) bod yr holl seddau yn y cerbyd ar gael i’w harchebu ymlaen llaw (h.y. ni ellir eu hurio ar gyfer un grwp yn unig), a’r archebion hynny fydd yn pennu ei lwybr;
(c) bod teithwyr sy’n archebu’n unigol yn cael teithio gyda’i gilydd yn yr un cerbyd;
• y trefniadau ar gyfer archebu ymlaen llaw;
• yr adegau y gellir archebu (e.e. 8am - 10pm, dydd Llun i ddydd Gwener, 52 wythnos y flwyddyn);
• disgrifiad neu fap o’r ardal weithredu hyblyg;
• manylion unrhyw arosfannau sefydlog, ynghyd â gwybodaeth ar ffurf amserlen am unrhyw rai sydd wedi’u hamserlennu;
• a yw’r gweithredwr yn bwriadu ateb gofynion teithio pob darpar deithiwr ac, os nad yw, pa drefniadau a wneir (os gwneir rhai o gwbl) pan na ellir ateb gofynion teithio rhywun;
• gwybodaeth am daliadau fel y gall pob darpar deithiwr gyfrifo’n rhwydd y tâl ar gyfer ei daith arfaethedig;
• y ffenestr amser berthnasol (hyd at 20 munud ar y mwyaf).
Gwasanaethau sy’n croesi ffiniau
• I’r Alban
26. Ar hyn o bryd, ni chaiff gwasanaethau hyblyg ond gweithredu yng Nghymru a Lloegr. Os oes bwriad i wasanaeth hyblyg ymestyn dros y ffin i’r Alban, bydd yn rhaid i’r gweithredwr gofrestru’r rhan honno’n unol â’r rheoliadau sydd mewn grym yn yr Alban. Bydd Swyddfa Ardal Draffig yr Alban yn gallu rhoi cyngor.
• I Lundain
27. Mae gwasanaeth sy’n croesi’r ffin i Lundain Fwyaf hefyd yn gorfod cael Hawlen Gwasanaeth Llundain oddi wrth Transport for London (TfL). Dylech gyflwyno’ch cais am gofrestru ar yr un pryd â chais i TfL am hawlen. Ni chaniateir y cofrestriad hyd nes y bydd TfL wedi rhoi Hawlen - mae hyn yn cymryd 12 wythnos fel arfer. Gellir cael gwybodaeth bellach am Hawlenni Gwasanaeth Llundain oddi wrth TfL Buses - www.tfl.gov.uk/buses/cib_lsp.shtml. Ffôn 020 7918 3135.
Rhwng Ardaloedd Traffig
28. Caiff y gwasanaeth ei gofrestru yn yr ardal draffig lle y mae’r rhan fwyaf o’r ardal weithredu gofrestredig, neu lle y mae’r nifer mwyaf o arosfannau sefydlog.
Gofynion o ran rhoi rhybudd
29. Yn yr un modd â chofrestriadau confensiynol, rhaid rhoi’r cyfnod rhybudd arferol o 56 diwrnod cyn cofrestru, newid neu ddiddymu gwasanaeth o dan gofrestriad hyblyg. Fodd bynnag, gall y Comisiynydd Traffig ddewis caniatáu cyfnod rhybudd byrrach yn yr achosion a restrir yn Rhan 3 y brif ddogfen ‘Guide to Local Bus Service Registration (PSV353A)’. Nid oes angen rhoi cyfnod o rybudd yn yr amgylchiadau a ganlyn:
• i newid cofrestriad i gydymffurfio ag amod mewn rheoliad traffig;
• i newid cyfeiriad y gweithredwr;
• lle y mae’r gwasanaeth yn croesi ffin Llundain Fwyaf fel bod rhaid cael Hawlen Gwasanaeth Llundain oddi wrth Transport for London ar ei gyfer.
Ffioedd
30. Mae’r ffi ar gyfer cofrestru, newid neu ddiddymu cofrestriad hyblyg yr un maint â’r un ar gyfer cofrestriad confensiynol. Fodd bynnag, nid oes rhaid talu ffi o dan yr amgylchiadau canlynol:
• i wneud newidiadau i gydymffurfio ag amod mewn rheoliad traffig neu ddarpariaeth arall sy’n gwahardd neu’n cyfyngu ar draffig.
• i gofnodi neu newid cyfeiriad y gweithredwr.
• lle y mae’r gwasanaeth yn croesi ffin Llundain Fwyaf ac y gwneir cais am Hawlen Gwasanaeth Llundain yr un pryd, heb i’r gwasanaeth ddechrau cyn rhoi’r hawlen;
31. Mae trefniadau pontio ar gyfer gwasanaethau presennol sydd ag elfen hyblyg a gafodd eu cofrestru cyn cyflwyno cofrestriadau hyblyg ar 23 Chwefror 2004. Gall gwasanaethau o’r fath barhau i weithredu o dan eu cofrestriad presennol hyd nes y bydd y gweithredwr yn dymuno newid y gwasanaeth mewn modd a fyddai’n gofyn newid y cofrestriad yn ffurfiol.
32. Bryd hynny, mae’n ofynnol iddo newid cofrestriad y gwasanaeth i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gofynion newydd. Digon yw ymgeisio i newid y cofrestriad presennol ond gallai fod yn fwy hwylus ailgofrestru’r gwasanaethau o dan y trefniadau newydd (a bydd y ffi yr un fath yn y naill achos neu’r llall). Wrth gwrs, gallai manylion y cais hwnnw gynnwys y newid yr oeddech yn dymuno ei wneud i’r hen wasanaeth. Wedi i’r cais newydd ddod i law’r Comisiynydd, bydd yn rhaid disgwyl y cyfnod rhybudd arferol, a bydd y cofrestriad presennol yn dal i fod mewn grym hyd nes y daw’r cyfnod rhybudd i ben. Fel hyn, gellir pontio’n ddi-fwlch rhwng y ddau gwasanaeth. Bydd y cofrestriad presennol hefyd yn cael ei ddiddymu pan ddaw’r cyfnod rhybudd i ben, felly nid oes raid i’r gweithredwr gyflwyno cais am gofrestriad newydd a rhybudd am ddiddymu’r hen gofrestriad yr un pryd.
Eithriadau i’r gofyniad i newid manylion a gofrestrwyd neu i ailgofrestru gwasanaethau lleol sy’n bod eisoes yn wasanaethau hyblyg
33. Nid yw’r gofynion i ailgofrestru ym mharagraff 32 uchod yn berthnasol yn yr achosion a ganlyn (lle y mae natur y cais yn peri nad oes angen rhoi rhybudd ar hyn o bryd neu fod modd i’r Comisiynydd Traffig gytuno ar gyfnod rhybudd byr):
• i newid gwasanaeth i gymryd lle un y mae’r gweithredwr (neu weithredwr arall) wedi rhoi’r gorau iddo neu’n bwriadu rhoi’r gorau iddo.
• i newid neu ddiddymu gwasanaeth nad yw ar gael, neu heb fod ar gael ond i raddau cyfyngedig iawn, i’r cyhoedd.
• i newid gwasanaeth mewn ymateb i gais gan awdurdod traffig neu’r heddlu am resymau sy’n ymwneud â diogelwch y ffyrdd neu draffig - rhaid ichi roi tystiolaeth o’r cais hwnnw.
• i newid gwasanaeth am gyfnod o lai na 21 diwrnod i ddygymod â gofynion ychwanegol oherwydd achlysur neu ddigwyddiad arbennig (e.e. sioe flodau, a.y.b.) - rhaid ichi roi manylion yr achlysur neu’r digwyddiad dan sylw.
• i newid gwasanaeth am gyfnod o 14 diwrnod neu lai mewn ymateb i ^wyl gyhoeddus leol neu ^wyl a gedwir yn gyffredinol yn yr ardal - rhaid ichi roi manylion am yr ^wyl.
• i newid amserlen y gwasanaeth, un ai:
(a) fel nad yw’n fwy na 10 munud yn gynharach neu’n hwyrach na’r amseroedd a gofrestrwyd, neu
(b) i gysoni’r gwasanaeth â newidiadau i wasanaeth cysylltu ar y rheilffyrdd, llong fferi neu awyren - rhaid ichi roi manylion am y gwasanaeth cysylltu dan sylw.
• i newid gwasanaeth sy’n cymryd lle gwasanaeth bws arall.
• os nad yw unrhyw un o’r uchod yn berthnasol, ac os oes amgylchiadau na ellid disgwyl yn rhesymol i’r gweithredwr eu rhagweld a’ch rhwystrodd rhag rhoi rhybudd llawn o 56 diwrnod cyn diddymu neu newid y gwasanaeth - rhaid ichi roi eglurhad llawn o’r amgylchiadau.
Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau
34. Mae pawb sy’n hawlio Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau yn gorfod cadw cofnodion cywir i lwyr gadarnhau’r ffigurau a nodir ar y ffurflen hawlio.
35. Mae adran 1 y ffurflen hawlio ar gyfer cofnodi’r holl filltiroedd a weithredwyd ar wasanaethau cymwys. Er mwyn gallu gwneud hynny, bydd yr holl gerbydau a ddefnyddir ar y gwasanaethau hynny yn gorfod bod â dyfais mesur milltiroedd/kilometrau weithredol (wrth gwrs, fel arfer bydd odomedr wedi’i gosod gyda chloc cyflymder y cerbyd).
36. Bydd hyn yn galluogi’r hawlydd i gofnodi’r darlleniad milltiroedd/kilometrau ar ddechrau a diwedd pob taith neu lwybr cymwys a gwblheir. O ganlyniad i hynny, gellir casglu ffigurau manwl am y milltiroedd/kilometrau ar gyfer pob taith gymwys. Nid oes angen dweud y bydd yn rhaid cymryd camau brys i unioni odomedr os yw’n methu â chofnodi’n gywir.
37. Rhaid cael cofnod i brofi bod y gwasanaeth wedi rhedeg. Gwneir hynny fel arfer drwy ddefnyddio dyddlyfr gyrrwr neu gerbyd. Sylwer bod rhaid cadw’r holl gofnodion a sicrhau eu bod ar gael am o leiaf 12 mis ar ôl cyflwyno’r ffurflen hawlio i’r Adran Drafnidiaeth.
38. Ar ddiwedd y cyfnod hawlio, rhaid casglu’r union filltiroedd/kilometrau ar gyfer pob gwasanaeth cymwys am bob cofrestriad a’u nodi yn Adran 3 ar y ffurflen hawlio. Mae’r ffigurau ar gyfer pob cofrestriad yr hawlir amdano’n cael eu hadio at ei gilydd a throsglwyddir ffigur y cyfanswm i Adran 1 ar y ffurflen hawlio.
39. Defnyddir Adran 2 y ffurflen hawlio i gael gwybodaeth fanwl am faint y tanwydd y mae’r cerbyd(au) yn ei ddefnyddio. Defnyddir y gyfradd ddefnyddio a geir o hynny i bennu swm y grant sy’n ddyledus. Felly rhaid cadw cofnodion o gyfanswm y kilometrau a deithiwyd a chyfanswm y tanwydd a roddwyd.
40. Rhaid i’r ffigur am gyfanswm y kilometrau y mae cerbyd wedi’i deithio gynnwys pob troad olwyn gan y cerbyd(au) pan un a yw’n teithio ar wasanaeth lleol neu beidio. Gan gymryd bod yr offer mesur yn gweithio’n iawn, bydd yn fater syml o dynnu darlleniadau’r milltiroedd ar ddechrau’r cyfnod hawlio o’r darlleniadau a gofnodir ar ddiwedd y cyfnod hawlio ar gyfer pob un o’r cerbydau. Fel arfer, gellir cael y ffigur am gyfanswm milltiroedd/kilometrau y cerbyd o ddyddlyfr y gyrrwr neu’r cerbyd, ond os nad oes modd gwneud hynny, argymhellir y dylid cofnodi darlleniadau milltiroedd yn rheolaidd drwy gydol y cyfnod hawlio.
41. Dylai ffigur y tanwydd gynnwys cyfanswm y tanwydd a roddwyd yn y cerbyd(au) dros yr union un cyfnod â’r un ar gyfer cyfanswm milltiroedd y cerbyd. Rhaid cadw cofnodion fel eu bod yn dangos yr union feintiau o danwydd a roddwyd, a bydd y manylion am hynny ar gael fel arfer mewn cofnodion o faint y tanwydd a roddwyd mewn cerbydau unigol o danc tanwydd ar y safle, neu mewn derbynebau a gafwyd yn y man gwerthu. Ni cheir seilio’r cyfrif ar ffactor defnyddio tybiedig.
42. Yn fwy cyffredinol, mae’n bosibl y bydd rhannau o lwybr nad oeddent yn gymwys o’r blaen am fod cyfyngiadau arnynt o ran codi neu osod teithwyr i lawr neu rannau o lwybr nad oeddent ond yn cael eu gwasanaethu ar gais teithwyr a oedd eisoes yn y cerbyd, yn gymwys bellach ar gyfer Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau. Os ydynt, gellir cynnwys milltiroedd ar y rhannau hynny fel rhan o’ch hawliad o dan y categori milltiroedd cymwys yn Adrannau 1 a 3.
43. Er hynny, sylwer na ddylid cynnwys milltiroedd cymwys ar wasanaethau bws lleol sy’n dilyn llwybr hyblyg ar y ffurflen hawlio amcangyfrifedig (PSV310). Ni ddylid ond cynnwys milltiroedd cymwys ar y gwasanaethau hyn ar y ffurflen hawlio ardystiedig (PSV311). Y rheswm am hynny yw mai anodd fydd rhagweld y milltiroedd cymwys a gwblheir gan wasanaeth nad yw ond yn rhedeg yn ôl y galw.
44. Dylid cofio hefyd nad yw grant gweithredwyr gwasanaethau bysiau ond ar gael ar gyfer gwasanaethau bws lleol. Felly, ni ddylid ond hawlio’r grant hwnnw lle y mae arosfannau, o’u mesur ar linell syth, yn 15 milltir neu lai oddi wrth ei gilydd. Er enghraifft, ar wasanaeth hyblyg lle nad oes ond dau’n cael eu cludo, ac un ohonynt am deithio 8 milltir a’r llall am fynd 20 milltir, ni ddylech ond hawlio’r grant hwn ar gyfer y daith o 8 milltir. Nid yw gweddill y daith yn gyson â’r diffiniad o wasanaeth lleol gan fod yr unig un sydd ar ôl yn y bws wedi archebu’r gwasanaeth ar gyfer taith o 20 milltir. Wrth gwrs, pe byddai teithiwr arall yn dod ar y bws yn yr arhosfan 8 milltir ac yn teithio i’r arhosfan 20 milltir (taith o 12 milltir), byddai’r rhan honno o’r daith yn gymwys ar gyfer grant gweithredwyr gwasanaethau bysiau.
45. Mae’r ddeddfwriaeth sy’n ymdrin â chofrestru a hawlio grant gweithredwyr gwasanaethau bysiau ar gyfer gwasanaethau bws lleol fel a ganlyn:
Cofrestru Gwasanaeth Bws Lleol
• The Public Service Vehicles (Registration of Local Services) Regulations 1986 (SI 1986/1671) (fel y’u diwygiwyd);
• The Public Service Vehicles (Registration of Local Services) (Amendment) (England and Wales) Regulations 2004 (SI 2004/10);
Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau
• The Bus Service Operators Grant (England) Regulations 2002 (SI 1015/2002)
• The Bus Service Operators Grant (Amendment) (England) Regulations 2003 (SI 1036/2003).
• Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002 (SI 2022/2002)
• The Bus Service Operators Grant (Amendment) (England) Regulations 2004 (SI 2004/9).
C A oes rhaid i wasanaeth ‘llawer man i lawer man’ sy’n cynnig teithiau dychwelyd gael ei gofrestru ar wahân fel gwasanaeth ‘un man i lawer man’?
A Nac oes. Gall gwasanaeth sy’n cynnig teithiau dychwelyd weithredu o dan un cofrestriad
C A gaiff cerbyd sy’n gweithredu gwasanaeth hyblyg weithredu fel tacsi?
A Na chaiff. Rhaid i’r holl deithwyr archebu ymlaen llaw (er hynny, gweler paragraff 16 uchod). Gall y cerbyd dderbyn archebion ar ôl gadael y depo. Fodd bynnag, ni chaniateir iddo dderbyn archebion ar ochr y ffordd (boed hynny gyda’r gyrrwr yn uniongyrchol, neu drwy’r llinell archebu tra bo’r cerbyd yn bresennol ar ochr y ffordd). Byddai trefniadau o’r fath yn torri cyfraith Cerbydau Hacnai (tacsis).
C Y gaf weithredu gwasanaeth galw a reidio?
A Nid yw gwasanaeth galw a reidio ond yn cael gweithredu ar rannau penodol o lwybr rhwng arosfannau sefydlog sydd ar amserlen. Ni ellir galw ar yr elfennau o’r gwasanaeth sy’n hyblyg (h.y. yn gweithredu’n rhydd o fewn ardal weithredu hyblyg) o ochr y ffordd. Byddai hynny’n torri cyfraith Cerbydau Hacnai (tacsis).
C A gaf ymgymryd â theithiau sy’n hwy na 15 milltir o hyd?
A Cewch dderbyn archebion am deithiau y mae eu pwyntiau codi a gosod i lawr yn fwy na 15 milltir oddi wrth ei gilydd. Er hynny, nid ‘gwasanaethau lleol’7 yw teithiau o’r fath ac nid yw’r gofynion cadw cofnodion a nodir ym mharagraffau 20-22 uchod yn berthnasol i’r archebion hyn. Gweler paragraffau 36-46 uchod am arweiniad ynghylch cymhwyso’r grant gweithredwyr gwasanaethau bysiau i gerbydau sy’n cludo cymysgedd o deithwyr sydd ar deithiau lleol a rhai nad ydynt yn lleol.
C Sut y mae’r gofyniad i gadw cofnodion yn gweithio yn achos archebion bloc?
A Mae’r rheolau’n mynnu bod gweithredwyr yn cadw manylion o’r modd y gellir cysylltu â phob teithiwr. Felly, rhaid i weithredwyr sicrhau bod modd cael manylion am yr holl deithwyr gan y sawl sy’n gwneud archeb floc.
C A fydd y rheolau newydd yn effeithio ar wasanaethau bws lleol cofrestredig sy’n bod eisoes?
A Byddant. Gweler paragraff 31-33 uchod.
• Er mwyn cofrestru, rhaid ichi roi manylion y gwasanaeth y byddwch yn ei redeg, gan ddefnyddio’r ffurflen gais gywir sydd ar gael oddi wrth www.vosa.gov.uk neu oddi wrth y tîm trwyddedu yn y Swyddfa Ardal Draffig leol.
• Os ydych yn dymuno dechrau’ch gwasanaeth ymhen llai na 56 diwrnod, rhaid ichi fod yn gymwys i wneud hynny o dan un o’r achosion a nodir yn Rhan 3 o’r brif ddogfen Guide to Local Bus Service Registration8. Rhaid ichi hefyd lenwi ac atodi ffurflen PSV350A.
• Os ydych hefyd yn ymgeisio i redeg gwasanaeth sy’n gweithredu yn Llundain, bydd yn rhaid ichi gael Hawlen Gwasanaeth Llundain oddi wrth Transport For London. Gweler paragraff 27 uchod.
• Os ydych yn dymuno newid neu ddiddymu cofrestriad, dylech ddefnyddio ffurflen PSV355. Mewn rhai achosion, bydd yn rhaid ichi anfon ffurflen gais newydd gyda hi.
• Gan y bydd y ffurflenni’n cael eu llungopïo, byddwch cystal â defnyddio inc du i’w llenwi.
• Wedi ichi lenwi’r ffurflen, anfonwch hi i swyddfa’r Ardal Draffig lle y mae’r rhan fwyaf o’r ardal weithredu gofrestredig, neu os nad oes ardal weithredu benodol, lle y mae’r rhan fwyaf o’r arosfannau sefydlog.
SUT I LENWI’R FFURFLEN
Llofnodi’r ffurflen
Rhaid i’r ffurflen gael ei llofnodi gan unrhyw un sydd wedi’i awdurdodi i ymgymryd â chyfrifoldeb dros gofrestru gwasanaethau bws lleol ar ran y gweithredwr (e.e. y perchennog, partner, cyfarwyddwr neu reolwr trafnidiaeth). Nodwch eich swydd yn y busnes.
Cwestiwn 1-4
Os ydych yn gydlynydd ar gyfer gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan fwy nag un gweithredwr, rhowch eu holl:
• enwau;
• cyfeiriadau; a
• rhifau trwyddedau gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus.
Os ydych yn gweithredu’r gwasanaeth o fwy nag un Ardal Draffig, rhowch eich rhifau trwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer pob Ardal Draffig.
Os ydych yn dal hawlen(ni) bws cymunedol, dylech nodi’r rhif hwnnw.
Cwestiwn 6
• rhaid cael rhif gwasanaeth ar gyfer eich gwasanaeth (e.e. 19, 29a) neu enw gwasanaeth (e.e. ‘Bws Hyblyg y Llan’).
Cwestiwn 8
• rhowch ddyddiau’r flwyddyn a’r adegau yn y diwrnod y bydd y gwasanaeth yn gweithredu.
Cwestiwn 9
Mae dalen disgrifiad gwasanaeth yng nghefn y ffurflen, a dylech ei llungopïo os bydd arnoch angen dalennau ychwanegol.
• Dylech gofio, er nad oes cyfyngiad ar faint yr ardal weithredu, na chaiff ond gwasanaethu un neu ragor o gymunedau lleol neu gymdogaethau. Gweler paragraff 10 yn yr arweiniad.
Cwestiwn 10
• sylwer mai ystyr ‘arosfannau bws cydnabyddedig’ yw arosfannau ag arwyddion ac arosfannau heb arwyddion sydd yn sefydledig (e.e. ‘y tu allan i Dafarn y Llew Coch’).
• os yw’r gwasanaeth yn aros wrth un o blith grwp o arosfannau sy’n agos at ei gilydd, nid oes rhaid rhoi manylion am bob un ohonynt. Cewch gyfrif grwp o arosfannau’n un arhosfan.
Cwestiwn 12
• rhowch ‘Oes’ yn ateb i’r cwestiwn hwn os oes angen unrhyw arosfannau bws newydd ar gyfer eich gwasanaeth.
• os rhowch ‘Oes’ yn ateb, dylech drafod eich gwasanaeth gyda’r heddlu a’r awdurdod lleol cyn gynted ag y bo modd, i sicrhau na fydd unrhyw broblemau o ran diogelwch y ffyrdd neu amodau traffig.
Cwestiwn 16
• dylech gofio nad yw gwasanaeth galw a reidio ond yn cael ei ganiatáu ar hyd rhannau penodol o lwybr rhwng arosfannau sydd ar amserlen.
Cwestiwn 19
• os yw’ch gwasanaeth yn cynnig teithiau o fewn ardal weithredu hyblyg yn bennaf, ymgeisiwch i swyddfa’r Ardal Draffig lle y mae’r rhan fwyaf o’ch ardal weithredu. Os yw’n gwasanaethu arosfannau sefydlog yn bennaf, ymgeisiwch i swyddfa’r Ardal Draffig lle y mae’r nifer mwyaf o arosfannau sefydlog. Dim ond i un Swyddfa Ardal Draffig y mae’n rhaid ichi ymgeisio.
Cwestiwn 20
• dyma’r dull y mae teithwyr yn ei ddefnyddio i gysylltu â’r gweithredwr er mwyn archebu - er enghraifft, dros y ffôn, drwy ffacs, gwefan/ yr e-bost neu gyfeiriad post. Byddai hefyd o gymorth os gallech ddarparu’r cyfeiriadau, rhifau ffôn neu gyfeiriadau gwefan/e-bost hynny a ddefnyddir.
• rhaid i weithredwyr roi manylion hefyd am y modd y cytunir ar amseroedd a lleoliadau’r mannau codi a gosod i lawr rhwng y gweithredwr a theithwyr unigol (e.e. drwy negodi dros y ffôn, a’r gweithredwr yn defnyddio pecyn amserlennu cyfrifiadurol).
Cwestiwn 22
• rhowch fanylion llawn am y trefniadau a’r amodau archebu. Er enghraifft, unrhyw leiafswm nifer cyn y bydd gwasanaethau’n rhedeg (h.y. isafswm o archebion ar gyfer amser codi neu daith benodol).
• yn achos archebion sydd heb eu derbyn, un o’r trefniadau posibl fyddai gwasanaeth ‘galw’n ôl’ fel y gellid cysylltu â theithwyr na fu modd cynnwys eu harchebion os oedd cyfle i gynnwys eu harcheb yn codi wedyn.
Cwestiwn 23
• ni chaiff ffenestri amser fod yn hwy nag 20 munud. Rhaid ichi ymgeisio i’r Comisiynydd Traffig i gael caniatád i weithredu ffenestr amser hwy.
Cwestiwn 24
Gwybodaeth a roddir yn wirfoddol yw hon. Os ydych yn defnyddio cerbydau ac ynddynt fwy nag 16 o seddi i deithwyr mewn ardal weithredu hyblyg, fe’ch cynghorir i drafod y gwasanaeth arfaethedig gyda’r heddlu a’r awdurdod lleol cyn cofrestru i sicrhau na fydd unrhyw broblemau o ran diogelwch ffyrdd neu draffig.
Atodiad C
Enghreifftiau o fathau o wasanaethau
Ffigur A - Gwasanaeth Llawer Man i Lawer Man

Ffigur B - Gwasanaeth Llawer Man i Un Man
![]()
![]()

D.S. Mae’r arosfannau y tu allan i ysgolion, ysbytai, a.y.b.
Ffigur C - Rhwydwaith Hyblyg

![]()
![]()
![]()
![]()

1 Ceir rhestr o deitlau’r ddeddfwriaeth ym mharagraff 47 isod
2 Gweler ‘Public Service Vehicle Operator Licensing - Guide for Operators (PSV437) am fanylion
3 Gweler ‘Passenger Transport Provided by Voluntary Groups under the Section 19 or 22 Permit System - Guide for Operators (PSV385) am ragor o fanylion
4 Gweler paragraff 12 yr Atodlen i reoliadau cofrestru 1986
5 Gweler y pumed cwestiwn yn Atodiad A am arweiniad ynghylch archebion bloc.
6 Mae gwybodaeth bellach am Ddeddf Diogelu Data ar gael yn http://www.dataprotection.gov.uk neu drwy ffonio 01625 545745.
7 Gweler y diffiniad o ‘wasanaeth lleol’ ym mharagraff 3 uchod.
8 Gweler paragraff 3 uchod.
Page last updated: 31/03/2005



